DisgrifiadDaw enw Llandudno o enw'r eglwys o'r chweched ganrif a sefydlwyd gan Sant Tudno ar y Gogarth Mawr. Yn ol traddodiad, roedd Sant Tudno'n fab i Seithenyn, gwarchodwr chwedlonol ac anghyfrifol Cantre'r Gwaelod, y deyrnas a aeth dan donnau Bae Aberteifi drwy ei esgeulustod. Mae tystiolaeth o anheddiad Neolithig yn yr ardal a bu cloddio am gopr ar y Gogarth mor gynnar a'r Oes Efydd. Ond mae gwreiddiau Llandudno'n mynd yn ol i sefydlu Maenor y Gogarth ar gyfer Esgob Bangor yn 1284. Tan ddiwedd y 1840au pentref pysgota a mwyngloddio bychan oedd Llandudno, ond daeth i amlygrwydd yn fuan wedyn o ganlyniad i ddatblygu twristiaeth trefi glan mor.
Yn 1846 gwnaed cynlluniau ar gyfer tref glan mor newydd ac o 1849 ymlaen dechreuodd teulu Mostyn, a oedd yn dal tir wedi'i amgau ar hyd y bae, brydlesu lleiniau i ddarpar ddatblygwyr. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 1850au dechreuwyd adeiladu gwestai ar hyd y traeth ac adeiladwyd pier mawr yn 1858. Datblygwyd y system tramiau yn 1902 a'r adeg honno hefyd adeiladwyd y Grand Hotel, y gwesty mwyaf yng Nghymru. Hyd heddiw, mae cynllun grid Llandudno yn tystio i ddatblygiad modern y dref lan mor ffasiynol hon.
Gyda'i thraeth gwyn, y golygfeydd ysblennydd ar draws y bae o ben y Gogarth Mawr a'r Gogarth Bach, a mynediad rhwydd i Eryri, fe wnaeth y dref dynnu tyrfa ryngwladol iddi o'r dechrau un. Mewn llythyr a ysgrifennwyd yn 1859, dywed yr ymwelydd Gottfried Kinkel o'r Almaen mai ef oedd y cyntaf i nofio ar draws Bae Llandudno mewn awr a hanner can munud. Ymwelodd Brenhines Romania, Elisabeth von Wied, a'r dref yn 1890. Pan oedd yn tyfu i fyny, roedd ei thiwtor, yr amlieithog Georg Sauerwein, wedi cyflwyno barddoniaeth Gymraeg iddi. Yn ystod ei harhosiad pum wythnos yn Llandudno, cymerodd ran yn nathliadau'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno dan ei ffugenw 'Carmen Sylva'. Yn ol hanesyn lleol, mae arwyddair tref Llandudno 'hardd, hafan, hedd' yn deillio o'i disgrifiad hi o Gymru.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.