DisgrifiadYn wreiddiol, roedd y dref gaerog ganoloesol boblogaidd hon, yn safle abaty Sistersaidd Aberconwy a sefydlwyd yn 1199 gan Lywelyn ab Iorwerth. Yn 1284, wedi iddo goncro Cymru, fe wnaeth Edward I, brenin Lloegr, sefydlu Castell Conwy a'i dref gaerog gysylltiedig a daeth yr abaty'n Eglwys y Santes Fair, gyda'r mynaich yn cael eu symud i safle newydd ym Maenan yn Nyffryn Conwy. Bum canrif yn ddiweddarach, ymwelodd y tywysog Almaenig Herman von Puckler-Muskau a'r eglwys a chafodd gryn ddifyrrwch wrth weld yr arysgrif ar garreg fedd Nicholas Hookes, a nodai ei fod yn unfed plentyn a deugain ei dad a bod ganddo ef ei hun saith ar hugain o blant. Yn ystod teyrnasiad Edward I ymsefydlodd masnachwyr a chrefftwyr Seisnig yn y dref, y rhan fwyaf ohonynt o siroedd Caer a Chaerhirfryn.
Ty Aberconwy, sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif, yw'r unig enghraifft sydd ar ol bellach o d? masnachwr a adeiladwyd o fewn muriau'r dref. Yn 1401 llwyddodd dau gefnder i Owain Glynd'r i gipio'r dref a'r castell a'u dal am bedwar mis dan warchae. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaethant lwyddo i ddinistrio'r pontydd a'r gatiau ar hyd muriau'r dref.
Yn ystod y cyfnod Tuduraidd, ymsefydlodd mwy o deuluoedd Cymreig o fewn muriau'r dref. Yn eu plith roedd y masnachwr cyfoethog Robert Wynn a'i deulu. Yn ystod tri chyfnod adeiladu, rhwng 1576 a 1585, fe adeiladodd ei d? tref ysblennydd, Plas Mawr. Er y rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel t? teulu erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, cadwyd yr adeilad yn gyfan i bob pwrpas. Am gyfnod is-osodwyd Plas Mawr yn nifer o fflatiau, bu hefyd yn ysgol i ferched ac, erbyn y 1880au, roedd yn gartref i'r Academi Gelf Frenhinol. Pan ymwelodd yr anturiaethwraig a'r awdur llyfrau taith, Sophie Dohner, o Hamburg, a'r ystafelloedd arddangos, roedd yn hael ei chanmoliaeth i ansawdd celf Gymreig fodern, yn ogystal ag i'r adeilad hynod hwn a'i hanes maith.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.