Ystyrir Pont y Borth, a adeiladwyd rhwng 1819 a 1826, yn un o gampweithiau peirianneg sifil Thomas Telford. Mae'r bont ar yr A5, yn hanesyddol y prif lwybr cyflenwi a phost rhwng Dulyn a Llundain, drwy Gaergybi. Hyd nes agorwyd y bont, roedd yn rhaid i deithwyr, nwyddau, ceffylau a choetsys gael eu cludo ar gychod ar draws cerrynt hynod beryglus y Fenai, tra roedd gwartheg yn gorfod nofio drosodd wrth ochr y cychod gan obeithio na fyddai'r anifeiliaid gwerthfawr yn boddi ar y ffordd.
Mae Pont y Borth yn 416 metr o hyd, ac yn 176 metr rhwng y ddau brif biler. Mae'r cadwyni yn dal y ffordd 30 metr uwchlaw lefel y mor fel y gallai llongau hwyliau hwylio o dan y bont. Cyllidwyd y gwaith adeiladu gan y Senedd a chostiodd £120,000. Nid oedd hyn yn cynnwys y £26,394 7s 6d o iawndal a dalwyd i Miss Silence Williams, perchen y gwasanaeth fferi ar draws y Fenai. Amcangyfrifir mai hwn oedd un o'r symiau mwyaf a dalwyd erioed i un unigolyn yn hanes Prydain.
Ers dyddiau ei hadeiladu, mae pont Telford dros y Fenai wedi denu llawer o dwristiaid a ddaeth i ryfeddu at ei mawredd. Pan osodwyd y gadwyn gyntaf ar 20 Ebrill 1825, daeth llawer o bobl i lannau'r Fenai i wylio'r gwaith a barodd am ychydig dros ddwy awr ac a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda dau weithiwr yn cerdded ar hyd top y gadwyn a oedd wedi'i gosod yn ei lle. Ar ol iddi gael ei gorffen, teithiodd llawer mwy o deithwyr o dramor i weld y bont. Yn eu plith roedd llawer o beirianwyr sifil a archwiliodd bont Telford o bob ongl, gwneud eu mesuriadau eu hunain ac edmygu ei gynllun mentrus, ond gosgeiddig.
Cafodd y bont grog ei hailwampio yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a symudwyd y llwybr troed i gerddwyr, a oedd gynt yn y canol, i ddwy ochr y bont. Gwnaed y gwaith trwsio diweddaraf yn 2005 pan gafodd y bont ei hail-baentio.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiadapplication/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectArchive coversheet relating to the Menai Bridge gigapan project, carried out by Scott Lloyd and Rita Singer, October 2017.application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of visit to Menai Suspension Bridge by Basile-Joseph Ducos from 'Itin?raire et souvenirs d'Angleterre et d'Ecosse, 1814-1826' (1826). Text available in Welsh, English, French & German. Produced through the European Travellers to Wales project.