DisgrifiadSefydlwyd y dref fechan hon yn ystod blynyddoedd concwest Edward I o Gymru yn y 1280au. Y castell carreg, a adeiladwyd yma ar orchymyn Edward I, oedd y gyntaf o'r ceyrydd a sefydlwyd ar hyd arfordir Cymru gyda'r bwriad o wastrodi'r brodorion Cymreig. Yno, yn Awst 1399, yr ymostyngodd Richard II i Henry Bolingbroke, a ddaeth yn fuan wedyn yn frenin Harri'r IV, ar yr amod yr arbedid ei fywyd ar ol iddo ildio'r orsedd.
Daeth llawer o incwm Y Fflint a'r ardal gyfagos o gloddio am blwm a'i brosesu rhwng diwedd yr oesoedd canol a dechrau'r cyfnod Fictoraidd, pan gaeodd yr olaf o'r gweithfeydd smeltio. Bryd hynny datblygodd canghennau eraill o ddiwydiant trwm, yn cynnwys cloddio am lo, a chynhyrchu papur a chemegau.
Felly, roedd llawer o'r ymwelwyr rhyngwladol yn y dref nid fel pobl ar wyliau ond am resymau proffesiynol. Wrth deithio ar droed drwy siroedd Gogledd Cymru yn 1846, disgrifiwyd Y Fflint gan Franz von Loher fel tref arfordirol a oedd yn gartref i forwyr anturus a hefyd i bobl a enillai fywoliaeth lai peryglus drwy gasglu cocos ar drai.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.