Disgrifiad
Ty o'r 16eg ganrif wedi?i adeiladu o rwbel, gyda thoeau llechi ar oleddf, talcenni plaen a chyrn simdde uchel o garreg yw Plas Tirion, Bro Garmon. Mae cynllun y t? ar ffurf F (ffurf E gynt) gyda chroes-adain dalcennog drillawr ymestynnol ar ochr dde'r prif floc deulawr. Mae ganddo borth talcennog trillawr gyda bwa segmentol a drws stydennog gwreiddiol o dderw. Mae gan y ffenestri afreolaidd fframiau pren o'r 20fed ganrif a linteri cilan o lechen o tua 1840. Mae'r rhan fwyaf o'r agoriadau?n wreiddiol. Mae gan yr ochr dde-ddwyreiniol borth talcennog unllawr gyda mynedfa bengrwn a drws cyffelyb. Ceir nifer o nodweddion gwreiddiol y tu mewn i'r adeilad, gan gynnwys byrddau llawr y llawr cyntaf a'r atig a ffram drws wedi?i phegio o dderw.
(Ffynhonnell: disgrifiad yn rhestr Cadw)
J. Hill 21/06/2004
YCHWANEGOL:
Clwstwr o adeiladau aml-gyfnod yn nyffryn Conwy yw Plas Tirion. Mae sawl rhesiad o adeiladau fferm o dan y prif d? sy?n cynnwys t? cynharach.
1. Mae gan y prif d? aml-dalcennog olygfeydd dros ddyffryn Conwy. Ty bonedd adeiniog ydyw gyda rhesiad neuadd cynllun-T a chroes-adain, a phorth lloriog a grisiau sy?n ffurfio ymestyniadau yn y ffrynt a'r cefn. Cynllun tair-uned sydd i'r llawr gwaelod, lle mae parlwr, neuadd, a chegin. Mae gan y rhesiad neuadd fanylion mowldin-ofolo (y trawstiau, ffenestri a fframiau drws) a sawl silff simdde o blastr wedi?u dyddio 1626 ac 1628. Mae gan y groes-adain drillawr do o gyplau trawst-croes; mae gan y rhesiad neuadd deulawr do o drawstiau rhwymo gyda phwyslathau ar oleddf.
Cafodd y rhesiad neuadd ogleddol dyddiedig 1626-28 ei dendroddyddio ond methwyd a chael cadarnhad o'r dyddiad. Sut bynnag, cafwyd dyddiad o 1565 ar gyfer y groes-adain ddeheuol lle mae'r gegin.
2. Mae'r adeiladau fferm islaw'r t? yn cynnwys rhesiad adfeiliedig sy?n ymgorffori cwpl bongam nodedig gyda llafnau o ruddin sgwar (y goeden gyfan) yn hytrach na phreniau wedi?u haneru. Mae'r nenfforch a'r tulathau wedi?u duo gan fwg ac roeddynt yn perthyn i adeilad domestig canoloesol. Dyma gwpl terfynol y coridor mewn rhesiad i lawr llethr sydd wedi cael ei ailadeiladu y tu hwnt i'r bae llofftiog yn y pen, er bod peth fframio o ddyddiad ansicr wedi?i ymgorffori yn y waliau cerrig. Mae nenffyrch coeden-gyfan i?w cael ymhlith nenffyrch cyn-1400 yn Lloegr (ond ni chafwyd hyd iddynt yng Nghymru). Fel mae?n digwydd, dangosodd gwaith samplu i'r coed gael eu torri i lawr ar ddiwedd y 15fed ganrif, efallai ar adeg pan nad oedd coed mawr ar gael. Mae cysylltiad rhwng y nenfforch a thrawst diweddarach yn y coridor, a all fod yn gysylltiedig a llawr mewnosodedig.
Felly o ganlyniad i'r gwaith dyddio coed mae gennym gronoleg ddiddorol ac annisgwyl o fanwl ar gyfer y safle:
1498 t? neuadd ffram nenfforch
1545/46 trawst wedi?i osod (lofft) ym mhen coridor y t? neuadd
1565+ t? Eryri (= adain ddeheuol)
1626-8 Helaethu: mae'r t? Eryri yn dod yn adain gegin y rhesiad newydd.
NPRN27773.
R.F. Suggett/CBHC/Gorffennaf 2012