NPRN96158
Cyfeirnod MapSH76SE
Cyfeirnod GridSH7952062268
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirDenbighshire
CymunedLlanrwst
Math O SafleGORSAF REILFFORDD
Cyfnod19eg Ganrif
Disgrifiad
1. Gorsaf ymyl ffordd sy?n dyddio?n ol i 1868. Cymerodd le orsaf derfynol wreiddiol Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd ym 1863, pan gafodd y lein ei hestyn i Fetws-y-coed ym 1867 (nprn 41466). Mae'r orsaf, a ailenwyd yn Ogledd Llanrwst ym 1989, ar Reilffordd Dyffryn Conwy (nprn 415673), a oedd gynt yn Gangen Betws-y-coed o Reilffordd Llundain a'r Gogledd. Byddai'r rhan hon o'r rheilffordd yn gwasanaethu nifer o'r chwareli llechi yn ardal Nant Conwy.
Louise Barker, CBHC, Tachwedd 2014
Ffynonellau:
Y Cyrnol M.H. Cobb, The Railways of Great Britain: A Historical Atlas, Ian Allan, ail argraffiad 2006
D. Gwyn, 2015. Llechi Cymru. Archaeoleg a Hanes. CBHC
2. Mae gan y prif adeilad waliau rwbel tywyll gyda chonglfeini a phlinth o garreg nadd, cornis a chafnau o garreg, toeau llechi, a phum gr?p amlwg o simneiau carreg. Mae ganddo hefyd fae talcennog ymestynnol gyda therfyniadau a chopinau o garreg. Ar y llawr gwaelod mae ffenestr dair-rhan, gyda phennau crwn a myliynau wedi?u trin fel colofnigau, ac mae meini clo addurnol ar y ddwy ran allanol. Mae gan ran ganolog y ffenestr dympanwm bwa-Gothig gyda cherfwedd flodeuol. Mae gan y talcen ymestynnol bach i'r dde derfyniad carreg a chylchig gyda thorch wedi?i thorri?n ddwfn. Mae'r canopi ar y llawr gwaelod wedi?i balisio gan mwyaf ond yn agored ar y dde, gyda physt a chleddau pren siamffrog.
Ar blatfform y de mae cysgodfan isel unllawr, gyda thalcendo a bondo llydan a llenddefnydd drosto. Mae ganddo lecyn aros cilfachog canolog gydag agoriad llydan, o dan linter bren gyda phostyn canolog a chleddau bwaog siamffrog. Mae'r ochrau mewnol wedi?u palisio. Mae gan y waliau allanol ffenestri myliwn tair-rhan o garreg.
Ffynhonnell: DE/IND/SH76SE, cronfa ddata Adeiladau Rhestredig Cadw
J. Archer, CBHC, 1.12.2004 a B.A. Malaws, CBHC, 2 Chwefror 2012.