Castell Biwmares

Loading Map
NPRN95769
Cyfeirnod MapSH67NW
Cyfeirnod GridSH6072376245
Awdurdod Unedol (Lleol)Ynys Môn
Hen SirAnglesey
CymunedBeaumaris
Math O SafleCASTELL
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Castell Biwmares oedd y castell olaf i'w adeiladu fel rhan o gylch Edward I o amddiffynfeydd o amgylch Gogledd Cymru. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1295, ond araf fu'r cynnydd ac ni orffennwyd rhannau uchaf y tyrau a'r ward mewnol, sy'n golygu bod y castell yn is ac yn edrych yn llai bygythiol na'i gymheiriaid.

Fe wnaeth y lleoliad strategol a'r rheolau masnach caeth a oedd yn gysylltiedig a sefydlu Biwmares gyfrannu at ddatblygiad y dref a'r porthladd yn ganolfan ariannol a llongau Sir Fon tan yr ail ganrif ar bymtheg. Er na orffennwyd y castell, roedd ei safle tactegol yn ei wneud yn darged i wrthdaro arfog. Cipiodd rhai o filwyr Owain Glynd'r Fiwmares yn 1403 a'i dal am ddwy flynedd ac am dair blynedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr amddiffynwyd y castell dros y Brenin gan y teulu Bulkeley lleol.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y ffos o amgylch Castell Biwmares wedi llenwi a mwd a'r muriau i raddau helaeth o'r golwg dan eiddew. Er gwaetha'r dadfeilio allanol, roedd y Tywysog Hermann von Puckler-Muskau yn falch o weld bod yr ystafelloedd y tu mewn i'r porthdwr a'r capel mewn cyflwr da. Roedd yn gandryll, fodd bynnag, gyda'r cyrtiau tenis yr oedd y Bulkeleys, y cyn amddiffynwyr, wedi ei llunio ar y lawnt yn iard y castell. Mae'r castell bellach yn safle treftadaeth byd UNESCO.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiadapplication/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Beaumaris Castle by Hermann von P?ckler-Muskau from 'Briefe eines Verstorbenen' (1828). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.