Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium ar gyrion tref fodern Caernarfon fel rhan o'r ymgyrch i wastrodi'r Ordoficiaid yn OC77. Crybwyllir y gaer hon yn y chwedl 'Breuddwyd Macsen Wledig', a geir yn y Mabinogion, sy'n gasgliad o straeon Cymreig o'r oesoedd canol. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, adeiladodd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, dri chastell ar hyd Gogledd Cymru, yn cynnwys un yng Nghaernarfon, ond erbyn 1115 roedd y Cymry wedi cipio Castell Caernarfon ynghyd a theyrnas Gwynedd.
Yn 1283, wedi concwest Gwynedd, dechreuodd y brenin Edward I ailadeiladu Castell Caernarfon ar raddfa fawr, gan ei wneud yn symbol amlwg o'i reolaeth dros y diriogaeth yr oedd wedi'i meddiannu. Gan adlewyrchu muriau enfawr Caergystennin, adeiladwyd y tyrau ar ffurf amlonglog a gosodwyd rhesi llorweddol o gerrig lliw fel addurn yn y muriau. I gwblhau'r arddangosiad o rym Edward, roedd eryrod carreg yn addurno parapetau'r twr uchaf gan chwarae ar y syniad o orffennol ymerodrol Cymru. Ganed Edward II yng Nghastell Caernarfon yn 1284, a throsglwyddodd Edward I y teitl 'Tywysog Cymru' i'w fab bychan i sefydlu ei reolaeth linachol dros Gymru.
Yn ystod Gwrthryfel Glynd'r cafodd y castell a'r dref eu gwarchae'n gyson gan y Cymry a milwyr Ffrengig a oedd yn eu cynorthwyo. Fodd bynnag, gydag esgyniad Harri Tudur i orsedd Lloegr, collodd Castell Caernarfon ei bwysigrwydd a dechreuodd ddadfeilio. Ond roedd ei amddiffynfeydd yn dal mewn cyflwr digon da iddo gael ei ddefnyddio gan y Brenhinwyr a fu'n garsiwn yno yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ar ol y cyfnod byr hwn o wrthdaro, gadawyd y castell yn llwyr.
Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, dechreuodd twristiaid gyrraedd mewn nifer cynyddol gan gymryd diddordeb arbennig yn adfeilion trawiadol Cymru. O ganlyniad, gwnaed gwaith adfer a chadwraeth helaeth ar Gastell Caernarfon yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1986 cafodd Caernarfon ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd a Biwmares, Conwy a Harlech. Cadw sy'n gyfrifol erbyn hyn am Gastell Caernarfon.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiadapplication/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Caernarfon Castle by Alfred Erny from 'Voyage dans le pays de Galles' (1862). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.application/pdfRCAHMW ExhibitionsExhibition panel entitled Y Diwydiant Llechi, produced by RCAHMW for the National Eisteddfod 2005.application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel showing Caernarfon Castle, produced by RCAHMW for the Royal Welsh Show, 2011.application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Gweld o Dan y Tonnau; Seeing Beneath the Waves, produced by RCAHMW 2013.