DisgrifiadBu castell ar y safle strategol hwn uwchlaw Afon Gwy er 1067 ac mae'n un o'r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Cafodd Castell Cas-gwent ei atgyfnerthu gan William Marshall rhwng 1190 a'i farwolaeth yn 1219 ac ychwanegwyd ato ymhellach gan Roger Bigod yn y 1270au. Bu garsiwn yn y castell yn ystod gwrthryfel Glyn D'r a bu dan warchae ddwywaith yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Ar ol i ryfeloedd cartref Lloegr ddod i ben a'r frenhiniaeth gael ei hadfer, defnyddiwyd Castell Cas-gwent fel garsiwn a charchar. Enwir T'r Marten ar ol ei garcharor enwocaf, Henry Marten, a lofnododd y gwarant i ddienyddio Charles I, ac a fu farw yn y castell yn 1680. Yn fuan ar ol ei farwolaeth, symudwyd y garsiwn oddi yno a dechreuodd y castell fynd a'i ben iddo.
Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ailddarganfuwyd Castell Cas-gwent, a oedd erbyn hynny'n adfeilion, gan deithwyr yn chwilio am olygfeydd rhamantaidd Cymru. Ymyst y teithwyr cynharaf o'r Almaen roedd Carl Gottlob Kuttner a ymwelodd yn 1784. Gwnaeth hanes y castell, ei garcharorion pwysig a'i safle trawiadol ar lannau'r Gwy argraff fawr arno, ac roedd yn gofidio'n arw nad oedd ganddo fwy o amser ar ei ddwylo i aros dipyn yn hwy a thynnu ei lun o bob ochr. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach ymwelodd y Llydawr Armand-Louis-Bon Maudet, Comte de Penhouet, a'r lle ac fe'i cyfareddwyd gan y bensaerniaeth, yr hanes a'r amgylchedd hynod hardd. Nid oedd ei gynlluniau teithio prysur yn caniatau iddo yntau aros yn hir chwaith, ond yn ei ddyddiadur taith mae'n hael ei ganmoliaeth i wasanaeth a charedigrwydd Mrs Williams, a oedd yn cael ei chyflogi gan berchen y castell, Iarll Beaufort, i arwain ymwelwyr o amgylch y safle.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.