DisgrifiadYr Wyddfa, sy'n 1085 metr o uchder, yw mynydd uchaf Cymru. Yn ol chwedl, claddwyd y cawr Cymreig Rhitta dan y garnedd ar y copa ar ol i'r Brenin Arthur ei ladd. Y botanegydd Thomas Johnson oedd y cyntaf a gofnodwyd i ddringo i gopa'r Wyddfa, a hynny yn 1639, a gwelwyd nifer gynyddol o ymwelwyr yn dod i'r mynydd gyda chynnydd twristiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Lluniwyd llwybrau newydd i fyny'r mynydd ac, o'r chwe llwybr poblogaidd sydd mewn bodolaeth heddiw, yr hawsaf ond yr hiraf hefyd yw Llwybr Llanberis. Y ddringfa fwyaf ysblennydd i fyny'r mynydd yw Pedol yr Wyddfa, sy'n mynd ar hyd y Grib Goch gul a pheryglus ac yna i gopa'r Wyddfa, cyn croesi clogwyni 300m o uchder y Lliwedd. Yno y bu George Mallory yn ymarfer at ei daith anffodus i Everest yn 1924.
Yn nyddiau cynnar twristiaeth fodern roedd tywyswyr lleol yn cynnig eu gwasanaeth ac, am dal ychwanegol, hefyd yn darparu ceffylau a mulod i gario'r lluddedig i ben eu taith. Sefydlwyd y cwt cyntaf i werthu lluniaeth ar y copa yn 1820. Er gwaetha'r tywydd anffafriol, mwynhaodd y Tywysog Puckler-Muskau botel bersonol o siampaen yno yn 1828. Yn ystod y degawd dilynol, sefydlodd dau westy cystadleuol o Lanberis eu llochesi eu hunain yno, o'r enw 'Roberts Hotel' a'r 'Dry Club'. Yn 1844, croesawodd y cyntaf Frenin Sacsoni yno, yng nghwmni ei feddyg, Carl Carus.
Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel y gallai twristiaid deithio i fyny'r mynydd mewn unrhyw dywydd. Oherwydd y ddringfa serth aeth y cwmni i'r Swistir a phrynu pump o drenau stem arbennig a oedd yn gallu gwthio'r cerbydau teithwyr i fyny'r mynydd, yn hytrach na'u tynnu, a dod a hwy i lawr drachefn yn ddiogel drwy ddefnyddio eu brecs. Bu'r siwrnai gyntaf yn 1896, ond ar y daith yn ol i lawr o'r copa aeth y tren oddi ar y cledrau, mae'n debyg oherwydd iddo gael ei orlwytho. Wedi'r ddamwain hon, gosodwyd y system reilffordd rac a phiniwn llawer diogelach a'r system honno a ddefnyddir hyd heddiw.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.