Castell Hywel, Possible site of Battle, near Rhydowen

Loading Map
NPRN404602
Cyfeirnod MapSN44NW
Cyfeirnod GridSN4404047660
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedLlandysul
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Mae'r Brutiau am y flwyddyn 1153 yn nodi:

Meredud a Rys, meibon Gruffud ap Rys, y bydinoed y Penwedic; ac ymlad a wnaethant a Chastell Howel a?e darestwg (Jones, 130)

Cyfieithiad: cyfeiriodd Maredudd a Rhys, meibion Gruffudd ap Rhys, eu byddinoedd i Benweddig; gan osod gwarchae ar Gastell Hywel a?i orchfygu (Jones, 131)

Mae'r cyfeiriad at Gastell Hywel yng nghwmwd Penweddig yn ei gysylltu a Chastell Gwallter (SN 6217 8677; Heneb Restredig CD005) ym mhlwyf Llanfihangel Genau'r Glyn. Roedd Maredudd ap Gruffydd ap Rhys a Rhys ap Gruffydd yn rheolwyr yn Neheubarth. Ni wyddys dim pellach am y digwyddiad hwn.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Jones, Thomas (ed. and trans), Brut y Tywysogyon or the Chronicle of the Princes: Red Book of Hergest Version (Cardiff, University of Wales Press, 1955).