DisgrifiadMae'r Harleian Chronicle am y flwyddyn 822 yn nodi:
'Arcem decantorum a saxonibus destruitur' (Gough-Cooper, a384.1).
Cyfieithiad: 'Dinistriwyd caer y Decanti gan y Sacsoniaid' (Dumville, 10).
Yr oedd caer y Decanti yn Neganwy ac ailadroddir y digwyddiad hwn mewn croniclau diweddarach, heb ymhelaethu. Mae?n debyg mai'r safle yw'r un lle saif olion Castell Deganwy (SH 7822 7945; Heneb Restredig CN016). Mae?n debygol bod y Sacsoniaid dan sylw yn cael eu harwain, neu wedi cael eu hanfon, gan Ceolwulf, brenin Mercia (Charles-Edwards, 477).
CBHC, Tachwedd 2016
Llyfryddiaeth
Charles-Edwards, T. M., Wales and the Britons 350?1064 (Oxford University Press, 2013).[/ref]
Dumville, David (ed. and trans.), Annales Cambriae, A.D. 682?954: Texts A?C in Parallel (Cambridge, Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, 2002).
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Harleian Chronicle: Annales Cambriae, The A Text from British Library, Harley MS 3859, ff. 190r?193r, online edition.