DisgrifiadAdeiladwyd Pont Britannia gan y peiriannydd sifil Robert Stephenson fel pont diwbaidd i gludo'r rheilffordd dros y Fenai. Comisiynwyd Pont Britannia yn dilyn agor Pont Grog Thomas Telford ym Mhorthaethwy, a oedd wedi hwyluso teithio ar y goets fawr rhwng Caergybi a Llundain yn fawr iawn. Gyda'r cynydd cynyddol yn nifer teithwyr rhwng Iwerddon a Chymru, fodd bynnag, daeth yn angenrheidiol adeiladu rheilffordd ar draws y culfor. Dechreuwyd gweithio ar y bont yn 1846 ac agorodd i'r cyhoedd bedair blynedd yn ddiweddarach.
Roedd adeiladu pont o'r rhychwant hwn, yn cynnal pwysau dau drac rheilffordd, yn gryn dasg. Hefyd, fel y bont grog a gynlluniwyd gan Telford, roedd yn rhaid i bont rheilffordd Stephenson hefyd fod yn ddigon uchel i alluogi llongau i hwylio o dani ar bob adeg. Meddyliodd Stephenson am gynllun tiwbaidd newydd a fyddai'n addas i bont gyda rhychwant pur fawr, ac arbrofodd gyda'i gynllun drwy adeiladu'r bont reilffordd lai dros aber Afon Conwy, a agorwyd yn 1849. Defnyddiwyd patrymau o'r hen Aifft ar waith cerrig Pont Britannia, ac mae pedwar llew enfawr, drachefn mewn arddull Eifftaidd, yn addurno'r mynedfeydd i'r bont ar y ddwy ochr.
Fel Pont y Borth, heidiodd lluoedd o dwrisitiaid i weld Pont Britannia drwy gydol cyfnod ei hadeiladu ac ar ol iddi gael ei hagor. Am gyfnod hir, caniateid i ymwelwyr fynd i mewn i'r tiwbiau hyd yn oed i gael golwg iawn arnynt! Ceir un disgrifiad cyffrous gan Rudolph Delbruck, teithiwr o'r Almaen. Dywed sut y sychodd to pren y tiwbiau yn ystod haf arbennig o sych a phoeth gan fynd ar dan oddi wrth wreichion o'r trenau'n mynd heibio. Yna, fe wnaeth y tiwbiau'n llosgi achosi i'r paciau a oedd yn cael eu cario ar dop y tren hefyd fynd ar dan.
Aeth y bont yn wenfflam yn 1970 ac yn dilyn hynny tynnwyd y tiwbiau gwreiddiol oherwydd credid eu bod wedi mynd yn ansefydlog o ganlyniad i wres y tan. Cafodd y bont ei hail-lunio a nawr mae ganddi ddau ddec. Mae'r un uchaf yn dal i gludo trenau dros y Fenai, tra bo'r un isaf yn cario ffordd yr A55. Mae'r pileri carreg gwreiddiol yn dal i gynnal y fframwaith newydd ac mae'r llewod cerrig yn dal yn eu lle.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.