DisgrifiadTref gymharol newydd yw Aberdaugleddau, wedi ei henwi ar ol yr afon sy'n llifo drwyddi. Cysylltir yr harbwr naturiol, a ddefnyddiwyd ers dechrau'r oesoedd canol, yn arbennig a glaniad Harri Tudur yn 1485 ac oddi yno y cychwynnodd Oliver Cromwell pan oresgynnodd Iwerddon yn 1649. Fodd bynnag, mor ddiweddar a 1790 y sefydlwyd tref a harbwr pwrpasol Aberdaugleddau gan William Hamilton, a anogodd deuluoedd o bysgotwyr morfilod o Nantucket i ddatblygu llynges yno. Yn 1796 datblygwyd iard longau filwrol yno i'r Llynges Frenhinol ond, ar ol i honno symud i Ddoc Penfro yn 1814, fe'i cymerwyd drosodd gan fasnachwyr a ailddatblygodd y safle'n iard longau fasnachol.
Er gwaethaf cysylltiad hanesyddol y dref a theuluoedd Cymreig uchelwrol Penfro a Thudur, saif yn yr ardal y cyfeirir ati'n arferol fel 'Lloegr Fach tu hwnt i Gymru'. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, anogwyd nifer fawr o Fflemingiaid i ymgartrefu yno a disodli'r boblogaeth Gymreig. Byth ers hynny, mae'r cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith wedi aros yn amlwg ar wahan yn ddiwylliannol ac ieithyddol.
Oherwydd ei sefydlu'n gymharol ddiweddar a'i chysylltiadau cryf a morwriaeth fasnachol, nid oedd tref Aberdaugleddau yn cael ei hystyried yn draddodiadol yn gyrchfan bictiwresg ymysg twristiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, roedd safle'r dref ar arfordir hardd Sir Benfro, nodweddion naturiol yr hafan a rhwyddineb teithio oddi yno i'r wlad gyfagos, yn cael eu canmol yn gyson gan y rhai a laniai yno. Yn 1894 disgrifiodd Eugenie Rosenberger sut y cafodd Aberdaugleddau hwb economaidd bychan yn dilyn un storm arbennig o ddinistriol. Gwariodd llawer o longwyr eu harian yn helaeth yn y tafarnau oherwydd bu'n rhaid i'w llongau gael eu trwsio'n sylweddol ac, o ganlyniad, bu'n rhaid iddynt hwythau aros ar y lan yn llawer hwy nag roeddent wedi'i fwriadu'n wreiddiol.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.