DisgrifiadAbertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, ac mae ar arfordir y de. Yn niwedd y ddegfed ganrif roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Gymreig Deheubarth, ond credir i Abertawe gael ei sefydlu yn 1013 fel treflan Lychlynaidd gan y brenin Danaidd Sweyn Fforch-farf a oedd wedi arwain sawl ymgyrch ysbeilio yn yr ardal Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, ymgorfforwyd Abertawe o fewn arglwyddiaeth y mers Gwyr, ac adeiladwyd y castell cyntaf yno yn 1106.
Yn wreiddiol roedd yn borthladd a allforiai wlan, crwyn a brethyn, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg roedd glo a charreg galch hefyd yn cael eu cludo oddi yno. Oherwydd ei lleoliad ffafriol ar yr arfordir a'i chysylltiadau masnachol a threfi a dinasoedd eraill, dechreuodd diwydiant ffynnu yn Abertawe yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif. Daeth mwyndoddi a phrosesu copr yn ddiwydiannau canolog yn Abertawe a rhoi iddi'r llysenw 'Copperopolis'. Gweithfeydd copr yr Hafod, a sefydlwyd yn 1810, oedd y rhai mwyaf yn y byd, ond roedd diwydiannau metelegol eraill a chloddio glo yn fynnu hefyd. Tyfodd y dref yn hynod gyflym i ddarparu tai, ysgolion a lleoedd o addoliad i'r gweithwyr diwydiannol a'u teuluoedd. Ymhlith y rhain roedd Capel y Tabernacl, a elwid yn 'Eglwys Gadeiriol Anghydffurfiaeth Gymraeg', a Chastell Morris, un o'r blociau preswyl aml-lawr cyntaf yn Ewrop. O ganlyniad i hyn, dim ond yn 1881 y daeth Caerdydd yn fwy poblog nag Abertawe.
Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, wrth i drefi glan mor ddatblygu o amgylch arfordir Cymru, ceisiodd Abertawe hefyd am gyfnod ddilyn y ffasiwn. Fodd bynnag, oherwydd bod y diwydiannau trymion yn cael effaith niweidiol ar ansawdd yr amgylchedd, symudodd y mannau ymdrochi'n fuan i'r dwyrain i'r Mwmbwls gerllaw. Er gwaethaf hyn, roedd twristiaid yn dal i gael eu denu gan gyfaredd y peiriannau mawr a'r ffwrneisiau tanllyd. Roedd ymwelwyr niferus o Ewrop yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o longau rhyngwladol yn harbwr Abertawe, neu'n llygadrythu'n forbid ar drueni plant carpiog y strydoedd cefn a'r gweithwyr tlodaidd. Fel rhan o'i hymdrechion i ddod a chysur i weithwyr diwydiannol Abertawe, roedd y seren opera ryngwladol, Adelina Patti, yn rhoi cyngherddau blynyddol yn yr hen Prince Albert Hall yn y dref. Wedi'i geni yn Sbaen i rieni Eidalaidd, roedd Patti wedi ymgartrefu ar ystad Craig-y-Nos gerllaw.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.