Aberystwyth

Loading Map
NPRN33035
Cyfeirnod MapSN58SE
Cyfeirnod GridSN5821681622
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedAberystwyth
Math O SafleTREF
CyfnodCyfredinol
Disgrifiad
Mae tref Aberystwyth wedi ei chamenwi mewn gwirionedd gan mai yn aber afon Rheidol y mae'r dref arfordirol hon. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Aberystwyth i'w cael yn yr anheddau Mesolithig ger ceg afon Ystwyth, caer Oes Haearn Pen Dinas a cham cyntaf adeiladu castell yn Tan-y-Castell.

Mae safle presennol y dref yn dyddio o sefydlu'r castell Edwardaidd a'r fwrdeistref gaerog yn 1277. Cipiodd Owain Glynd'r y castell yn 1404 a'i ddal am bedair blynedd. Yn ystod y canrifoedd dilynol bu'n fathdy brenhinol ac yn warws, cyn iddo gael ei ddinistrio ar orchymyn Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ffynnodd y dref gyda thwf pysgota penwaig, a chloddio am blwm ac arian yn y mynydd-dir cyfagos. Gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd gwyliau glan mor at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, heidiodd mwy a mwy o dwristiaid i'r dref gymharol anghysbell hon i fwynhau ymdrochi a'r golygfeydd ysblennydd. Wedi diwrnod hir o deithio yn y goets fawr ar ffyrdd garw roedd teithwyr blinedig yn adfywio wrth weld Bae Aberteifi yn agor o'u blaenau. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 1860au cwblhawyd datblygiad Aberystwyth yn dref glan mor. Agorodd llawer o'r gwestai ar y promenad eu drysau gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ynghyd a'r pier, y rheilffordd halio a'r ystafelloedd ymgynnull.

Yn 1844 cyrhaeddodd y Brenin Friedrich August II o Sacsoni a Carl Carus, ei feddyg, yno'n hwyr un noson. Wedi taith ddiwrnod hir o Aberhonddu cawsant fod y gwesty o'u dewis yn hollol lawn. Roedd cymaint o ymwelwyr wedi cyrraedd Aberystwyth yr haf hwnnw fel y cymerodd oriau iddynt gael hyd i lety. Fore trannoeth, tarfuwyd ar eu brecwast wrth i fand pres a chor o longwyr roi croeso cerddorol cynnes iddynt. I'r teithwyr hynny nad oedd eisiau mwynhau ymdrochi yn y mor, roedd yr ardal o amgylch Aberystwyth yn arbennig o ddiddorol oherwydd ei chysylltiad a thwristiaeth pictiwresg. Cynlluniwyd gerddi trawiadol ystad yr Hafod gerllaw gan Uvedale Price, brodor o Aberystwyth ac un o sylfaenwyr y mudiad pictiwresg. Yn fwy diweddar, mae'r rhaglen deledu Y Gwyll / Hinterland, a ffilmiwyd mewn lleoliadau yn Aberystwyth a'r cyffiniau, wedi denu cenhedlaeth newydd o dwristiaid pictiwresg i'r dref.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiadapplication/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectDigital survey archive coversheet relating to Aberystwyth Gigapan Project carried out by Susan Fielding and Rita Singer, July 2017- April 2018. Produced through European Travellers to Wales project.application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Aberystwyth by Alphonse Esquiros from 'Itin?raire descriptif et historique de la Grande Bretagne' (c. 1850). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.application/pdfGeneral Digital Donations CollectionPictorial 90 year history of Aberystwyth Silver Band Bandroom, 1926-2016 produced by Peter Henley, 2016.