DisgrifiadI daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymrucynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o ymchwilio i frwydr Bryn Glas. Mae adroddiadau manwl ar yr ymchwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil hanesyddol a dogfennol (Border Archaeology, 2009), dau gyfnod o waith, un heb fod yn ymyrryd a'r safle a'r llall yn ymyrol (Archaeoleg Cymru 2012 a 2014) a chloddio (Archaeoleg Cymru, 2013).
Roddir adroddiad am y frwydr mewn sawl cronicl Cymraeg a Saesneg o gyfnod y frwydr neu o gyfnod agos iawn ati (Border Archaeology, 2009). Ceir yr adroddiad mwyaf manwl am y frwydr yn Historia Vitae et Regni Ricardi Secundia ysgrifennwyd yn abaty Evesham oddeutu 1413, sy?n cofnodi i Edmund Mortimer gael ei gipio ar 22ain Mehefin 1402 pan oedd:
Owain Glyndwr wedi dod i lawr o fynyddoedd Cymru gydag ychydig o ddynion, ac yr oedd ar un o'r mynyddoedd ger Pilleth ...dringodd y mynydd yn ddi-ofn. Ac felly, pan ddaeth y ddau lu at ei gilydd ar ruthr enfawr, bu i'r Cymru o Faelienydd, y cyfeiriwyd atynt eisoes ... droi yn erbyn eu harglwydd eu hunain... daliwyd Edmund yn gyhoeddus a llawer eraill gydag ef... lladdwyd oddeutu pedwar cant o Saeson, ac yn eu plith yr oedd pedwar marchog, gan gynnwys yr Arglwydd Kynard de la Bere (Livingstone a Bollard, 78-9)
Mae?n anodd, ar sail y dystiolaeth ddogfennol ac archaeolegol sydd ar gael, i bennu?n union pa bryd yr ymladdwyd y frwydr. Mae'r Wigmore Chronicle yn enwi safle'r frwydr fel `ar ben bryn o'r enw Bryn Glas ym Maelienydd ger Trefyclo?, y gellir ei adnabod fel y bryn yn union i'r gorllewin o eglwys y plwyf St Mair (SO 254 682), ond lle na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth gan waith maes archaeolegol heb fod yn ymyrryd a'r safle a gwaith ymyrol (Archaeoleg Cymru, 2012 a 2013). Mae nodyn gan Nicholas Bysshop a ysgrifennwyd oddeutu 1432 yn gosod y frwydr `ar fryn gyda ffynnon ac ar ochr dde bryn gerllaw? (Bryn Graig, SO 253 689) (Griffiths, 116) ac mae'r Prose Brut yn ei lleoli `ar y Bryn Du?? (SO 248 693). Mae'r safle mwyaf tebygol rywle yng nghyffiniau'r tri bryn yma.
CBHC, Ionawr 2017