Er bod tystiolaeth helaeth o bresenoldeb pobl yn y rhanbarth yn y cyfnod cynhanesyddol, gellir olrhain gwreiddiau prifddinas Cymru'n ol i sefydlu caer Rufeinig yno tua 55OC. Deffnyddiwyd hon tan ddiwedd y bedwaredd ganrif. Yn y cyfnod canoloesol cynnar, ffurfiodd Meurig ap Tewdrig deyrnas fechan Glywysing, a oroesoedd tan y goresgyniad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg. Comisiynodd William I, Brenin Lloegr, adeiladu castell ar safle'r hen gaer Rufeinig ac yn fuan datblygodd tref farchnad fechan, gaerog, o'i gwmpas. Er gwaethaf cael ei llosgi gan Owain Glynd'r yn 1404, ffynnodd masnach forwrol y dref, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg ymestynnai'r fasnach honno i Ffrainc ac Ynysoedd y Sianel, yn ogystal ag i borthladdoedd eraill o amgylch Prydain. Er i Gaerdydd ddod yn dref sirol Morgannwg yn 1536 a gweld gwelliannau sylweddol yn y ddeunawfed ganrif, yn cynnwys helaethu ac ailadeiladu Castell Caerdydd gan Ardalydd 1af Bute, eto araf fu twf y dref ei hun.
Dechreuodd twf a datblygiad ar raddfa fawr yn negawd olaf y ddeunawfed ganrif. Agorwyd camlesi i gysylltu'r porthladd a'r ardaloedd cloddio glo i'r gogledd, a dyna ddechrau trawsnewid Caerdydd i fod y ddinas allforio glo fwyaf yn y byd. Yn y 1830 adeiladodd yr 2il Ardalydd Bute ('Crewr Caerdydd Fodern') ddociau ym Mae Caerdydd, lle roedd adeiladau amlwg yn cynnwys y Gyfnewidfa Glo a Llongau ac Adeilad y Pierhead. Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn o ganlyniad i'r datblygiadau hyn gan ymestyn ffiniau'r dref a'i datblygiad economaidd a diwydiannol. Daeth mewnfudwyr o lawer gwlad i'r dref, ac roedd hynny'n amlwg iawn yng nghymeriad amlddiwylliannol yr ardaloedd o amgylch y dociau, gyda Tiger Bay yr enwocaf yn eu plith. Erbyn cyfrifiad 1881, Caerdydd oedd y dref fwyaf yng Nghymru; rhoddwyd statws dinas iddi yn 1905, ac yn fuan agorwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yno, a phencadlysoedd Prifysgol Cymru a'r Eglwys Babyddol yng Nghymru. Fe'i gwnaed yn brifddinas Cymru yn 1955 ac, yn dilyn sefydlu llywodraeth ddatganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1997, mae'n gartref i'r Senedd. Yno hefyd ceir Canolfan y Mileniwm, cartref tim rygbi cenedlaethol Cymru.
Fel arwydd o'i henw da a'i phwysigrwydd cynyddol yn adfywiad yr ieithoedd a'r diwylliannau Celtaidd ar hyd arfordir gorllewinol Yr Iwerydd, daeth dirprwyaeth gref o ysgrifenwyr, casglwry llen gwerin, newyddiadurwyr a chyfieithwyr o Lydaw i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1899. Aeth y Llydawyr a newyddion gartref am eu profiadau. Roeddent un ac oll yn hael eu canmoliaeth i fywiogrwydd y diwylliant Cymreig, a hefyd i ysblander y ddinas.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiadapplication/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of visit to Cardiff by Carl Klocke from 'Dawlais Works, die Eisen-und Schienen-Walzwerke des Hauses John Guest, in London' (c. 1844). Text available in Welsh, English, French & German. Produced through the European Travellers to Wales project.application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Trefweddau a Thai; Townscapes and Housing, produced by RCAHMW 2013.application/pdfERC - Emergency Recording CollectionReport from a Building Survey & Photographic Record (Level 3), Written Record (Volume 1), of a building on the former Curran Engineering Works site (DR017/Orion 5 Building), at Curran Embankment, Cardiff. Carried out by Turley Heritage in October 2023 as part of planning conditions, Reference: 21/00783/MJR.