Mynydd Carn, site of Battle, near Templeton

Loading Map
NPRN300319
Cyfeirnod MapSN01SE
Cyfeirnod GridSN0962010890
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Benfro
Hen SirSir Benfro
CymunedTempleton
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol Cynnar
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Mynydd Carn 1081 ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg fanwl ar y digwyddiad (Border Archaeology).

Roedd brwydr Mynydd Carn yn drobwynt yn hanes gwleidyddol y Dywysogaeth yn yr oesoedd canol; dymchwelwyd y drefn sefydledig a oedd yn cael ei chynrychioli gan Trahaearn ap Caradog yng Ngwynedd, Caradog ap Gruffudd yn Ne Cymru a Meilyr ap Rhiwallon ym Mhowys a?u lladd gan Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a Gruffudd ap Cynan, etifedd Gwynedd a oedd wedi?i alltudio. O ganlyniad sicrhaodd Rhys ap Tewdwr ei sefyllfa nid yn unig fel rheolwr, ond hefyd fel y prif arglwydd Cymreig yn Ne a Gorllewin Cymru.

Prif ffynhonnell manylion am y frwydr hon yw'r Vita Griffini Filii Conani, ynghyd a cyfeiriadau pwysig at y frwydr mewn dwy gerdd Gymraeg gynnar, sef marwnad i Drahaearn ap Caradog (a gyfansoddwyd ar ffurf proffwydoliaeth ar ol y digwyddiad) a marwnad i Gruffudd ap Cynan, y ddau, fe ymddengys, wedi?u cyfansoddi gan y bardd Cymraeg Meilyr Brydydd (er y dadleuwyd nad ef oedd awdur y gerdd gyntaf) a chan gofnodion byr am y frwydr yn y Croniclau Breviate a Cottonian ac yn y Brutiau.

Erys safle maes brwydr Mynydd Carn heb ei ganfod, er yr ymddengys fod yr holl ffynonellau?n cytuno fod maes y frwydr ar safle ar ben bryn/mynydd gyda charnedd amlwg ar ei ben. Mae'r dystiolaeth ddogfennol sydd ar gael a barn ysgolheigion modern yn gosod lleoliad y frwydr rywle yng ngogledd Sir Benfro o fewn Cantref Cemais (o bosibl yng nghyffiniau'r mynyddoedd sydd rhwng arfordir gogledd Sir Benfro a'r Afon Gwaun a gynrychiolir gan Fynydd Carningli, Mynydd Llanllawer a Mynydd Dinas).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Border Archaeology, Mynydd Carn (1081): Documentary and Historical Research Report (2009).