Disgrifiad
Cafodd Elusendai Llanrwst (Ysbyty'r Iesu) eu sefydlu gan Syr John Wynn c1610-1612 a?u hadfer yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Cawsant eu hadeiladu?n wreiddiol fel deuddeg annedd un-ystafell mewn chwe bae deulawr. Erbyn heddiw mae'r adeiladau sydd ar ol yn un llawr a hanner; maent hwy wedi?u hadeiladu o rwbel ac mae ganddynt doeau llechi. Mae ganddynt ffenestri dormer talcennog, a ffenestri dalennog myliwn tair-rhan, sydd wedi?u hadfer, ar y llawr gwaelod. Mae gan yr ystafelloedd ar y llawr gwaelod drawstiau a distiau stop-siamffrog anferth a lleoedd tan o'r 19eg ganrif.
(Ffynhonnell: disgrifiad yn rhestr Cadw)
J. Hill 13/05/2004