DisgrifiadAdeiladwyd Castell Conwy gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1287 fel rhan o'i goncwest o Gymru ac fe'i hystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth gaerog y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd yn un o safleoedd allweddol ymgais Edward i ddarostwng y Cymry drwy amgau Gogledd Cymru a 'chylch haearn' o gestyll, a gyflenwid a nwyddau a bwyd gan y trefedigaethau Seisnig a sefydlwyd yn y trefi caerog a godwyd yn gysylltiedig a hwy. Fel ei holl brif gestyll Cymreig, mae Castell Conwy ar yr arfordir fel y gellid cludo deunyddiau adeiladu a chyflenwadau milwrol i'r safle ar longau, gan osgoi gorfod croesi tir gelyniaethus. Fodd bynnag, wrth i asedau Edward brinhau erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, nid oedd llawer o lewyrch ar y castell a'r dref ac roeddent yn dioddef o ddiffyg cyflenwadau.
Yn 1399, cafodd y brenin Richard II loches yno pan wrthryfelodd Henry Bolingbroke - a goronwyd yn fuan wedyn yn Harri'r IV - yn ei erbyn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth gwrthryfel ar warthaf y castell a'r dref drachefn wrth iddynt gael eu cipio gan y Cymry dan arweiniad Owain Glynd'r. Er i'r castell gael ei gadarnhau yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, ni chwaraeodd unrhyw ran o bwys yn y gwrthdaro hwnnw, ond fe'i hamddiffynnwyd yn llwyddiannus dros Siarl I yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, daeth y castell adfeiliedig yn un o brif atyniadau twristiaid ar eu teithiau ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Yn dilyn adeiladu pont grog Thomas Telford a Rheilffordd Caer i Gaergybi, cynyddodd diddordeb yn ei gadwraeth ac, yn 1865, dechreuwyd gwaith i adfer y castell ar ol iddo ddod yn eiddo i'r dref. Yn 1986 cafodd Conwy ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd a Biwmares, Caernarfon a Harlech. Erbyn hyn Cadw sy'n gyfrifol am gynnal Castell Conwy.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.