Mwynhewch uchafbwyntiau Coflein a ddewiswyd gan staff o bob rhan o'r sefydliad
Deled yr eira – archaeoleg y gaeaf
Mae eira’n cynnig cyfle arbennig i weld a chofnodi safleoedd yn nhirwedd Cymru. Mae’r gorchudd gwyn yn creu’r amodau perffaith ar gyfer cofnodi gwrthgloddiau, enwedig o’u cyfuno â haul isaf y gaeaf. Yn yr eira mae lliwiau’r dirwedd yn unffurf, felly gellir gweld gwrthgloddiau henebion cymhleth yn fwy eglur a manwl. Ar yr un pryd, gall eira sy’n lluwchio neu’n dadmer, neu farrug sy’n dadmer ar borfa wedi’i gwella, helpu i ddangos mân wahaniaethau yn y dopograffeg a all wneud i olion archaeolegol sefyll allan. Pur anaml y bydd yr amodau tywydd hyn yn para’n hir, felly mae’n hollbwysig mynd ati ar unwaith i dynnu lluniau o’r awyr. Detholiad o luniau o aeafau’r gorffennol a geir yma; gobeithiwn yn fawr y cawn gyfleoedd i wneud mwy o ddarganfyddiadau y gaeaf hwn.
Ffotograff arosgo lliw o Fannau Brycheiniog a charnedd Pen y Fan, 2009.
Ffotograff arosgo lliw o Chwareli Foel Fawr, 2012.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Chwareli Foel Fawr.
Ffotograff arosgo lliw o Abaty Ystrad Fflur dan eira, 2010.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Abaty Ystrad Fflur.
Prev
Next
Menywod yn Ein Casgliadau
Mae’r rhan fwyaf o’r delweddau yn ein casgliadau’n ymwneud â henebion penodol yng Nghymru, er enghraifft, tai, safleoedd diwydiannol ac archaeolegol, capeli, cestyll. Cafodd yr henebion eu hadeiladu a’u defnyddio gan bobl, ond yn hanesyddol, mae ein harchif yn canolbwyntio ar gerrig, coed, brics, a dur treftadaeth adeiledig Cymru – ac nid yn gymaint ar y bobl.
Sut bynnag, fel y gwelwch, mae pobl (gan gynnwys menywod) yn cael eu pig i mewn weithiau! Cânt eu disgrifio yn aml yn y disgrifiadau catalog fel ‘ffigur’, er enghraifft ‘llun o [enw’r safle] gyda ffigur’, ac maen nhw fel rheol yn eilbeth i’r prif destun sef yr heneb neu adeilad.
Dyma’r menywod (a merched) rydw i wedi dod ar eu traws – ger eu bythynnod, wrth eu gwaith, yn mynd i’r capel; wedi’u portreadu mewn carreg, metel a phaentiadau, neu wedi’u cynrychioli gan ddillad. Nid yw’r un ohonynt wedi’i henwi (os ydych chi’n adnabod rhywun, rhowch wybod!), ond maen nhw yno, yn adlewyrchu eu rôl ganolog yn nhreftadaeth adeiledig Cymru.
Llun o dîm cloddio’n gweithio ar safle Pen Dinas, Aberystwyth a dynnwyd adeg cloddiadau 1933-1937.
Mae Elenydd, a ddisgrifiwyd gan y naturiaethwr Iolo Williams fel ‘Diffeithwch Olaf Cymru’, yn anghysbell a gwyllt, ond ceir yma hefyd dystiolaeth o weithgarwch dynol o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw. Yn ogystal â rhostiroedd eang, coetiroedd trwchus, afonydd cyflym a llynnoedd niferus, mae bryngaerau, meini hirion, carneddau claddu, olion hen fwyngloddiau, ffermdai ac aneddiadau unig a gwag, na ellir cyrraedd llawer ohonynt ond ar droed, wedi’u gwasgaru ar hyd y mynyddoedd.
I ddarganfod mwy am y rhanbarth hynod ddiddorol hwn, cliciwch ar y cyswllt o dan bob ffotograff i weld y cofnod llawn a map yn dangos lleoliad y safle. Gallwch hefyd lawrlwytho ein eLyfr: The Archaeology of the Welsh Uplands.
Brithdir, Llanddewi brefi. Ffotograff lliw a dynnwyd gan Paul R. Davis ar 17 Tachwedd 2018.
Gweler y cofnod safle ar gyfer anheddiad anghyfannedd Brithdir.
Ffotograff o Gronfa Ddŵr Bog Pond a dynnwyd gan R.S. Jones yn ystod Arolwg Ucheldirol a wnaed gan Brosiectau Archaeolegol Cambria yn 2004.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Gronfa Ddŵr Bog Pond.
Jezreel, Capel y Bedyddwyr, Goginan, 1996.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Jezreel, Capel y Bedyddwyr, Goginan.
Pentwr Cerrig Blaen Rhestr, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain. Yn Archif Arolwg Canolog Elenydd, 2009.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Pentwr Cerrig Blaen Rhestr.
Llun o ffermdy Cil-oerwynt, tynnwyd gan Miss M. Wight tua 1954.
Gweler y cofnod safle ar gyfer ffermdy Cil-oerwynt.
Argae Aber-ffrwd, Rheidol, gan Dylan Roberts, 1968.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Argae Aber-ffrwd, Rheidol. See record for Aber-ffrwd Dam.
Ffotograff arosgo lliw o Hafod Las, yn edrych tua’r de-ddwyrain, yn dangos fferm Bryn Ambor, 2007.
Cyfnod o newid mawr oedd yr ugeinfed ganrif yng Nghymru – gydag isadeiledd, technoleg ac arddulliau pensaernïol newydd yn gweddnewid trefluniau a thirweddau’r wlad. Mae llawer o’n casgliadau’n cofnodi’r newidiadau a datblygiadau arloesol hyn.
Pwll Nofio’r Ymerodraeth, Caerdydd, 1962.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Pwll Nofio’r Ymerodraeth, Caerdydd.
Cronfa Ddŵr Llyn Stwlan, 1990.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Cronfa Ddŵr Llyn Stwlan
Cylchfan mawr yn Ffordd y Brenin, Abertawe, a oedd yn ymgorffori tanlwybr i gerddwyr, 1970.
Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg denwyd gweithwyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon i weithio yn niwydiannau haearn, copr, glo a llechi Cymru. Cafodd y rhwydwaith cludiant a ddatblygwyd i wasanaethu’r diwydiannau hyn – camlesi, rheilffyrdd, ffyrdd a phontydd – ei adeiladu gan lafurwyr lleol ac ymfudwyr, ac roedd cymunedau yng nghyffiniau porthladdoedd prysur Cymru yn cynnwys pobl o bedwar ban byd. Llifodd ffoaduriaid a faciwîs i Gymru yn ystod y ddau Ryfel Byd, a daeth yn gartref dros dro a pharhaol i bobl o Wlad Belg, Gwlad Pwyl, yr Eidal, Uganda, Vietnam a llawer gwlad arall. Mae ymfudwyr yn parhau i wneud eu cartrefi yng Nghymru heddiw. Adlewyrchir yr hanes cyffrous hwn yn y lluniau isod, y mae pob un ohonynt yn adrodd stori.
Canolfan Islamaidd De Cymru, Alice Street, Caerdydd.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Canolfan Islamaidd De Cymru.
Eglwys Gatholig Mair Seren y Môr, Amlwch, 1947. Cynlluniwyd yr eglwys tua 1939 gan Giuseppe Rinvolucri, pensaer o’r Eidal a ddaeth i Gymru fel carcharor rhyfel. Priododd â merch leol a bu’n byw a gweithio yng ngogledd Cymru, gan arbenigo mewn cynllunio eglwysi Catholig. Cynlluniodd nifer o eglwysi eraill yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny yn Abergele a Phorthmadog. Gweler y cofnod safle ar gyfer Eglwys Gatholig Mair Seren y Môr, Amlwch.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Eglwys Gatholig Mair Seren y Môr, Amlwch
Pont Wyddelig Rhif 27, Camlas Llangollen, 2006. Roedd y gweithlu enfawr a adeiladodd y gamlas rhwng 1793 a 1808 yn cynnwys gweithwyr o Iwerddon.
Gweler y cofnod safle ar gyfer Pont Wyddelig Rhif 27, Camlas Llangollen
Capel Eidalwyr yng ngwersyll Carcharorion Rhyfel Pont Henllan. Cafodd y capel ei greu mewn cwt Nissen gan Mario Ferlito ar ôl i 1,200 o Eidalwyr a gipiwyd yn Libya a Tunisia gyrraedd ym 1943.